Skip to main content
Menu

New Parliament audio tours in Welsh / Teithiau Sain newydd Senedd y DU yn Gymraeg

12 April 2017

Image of UK Parliament portcullis

Audio tours of the Houses of Parliament at Westminster are now available in Welsh.

The audio commentary brings some of the most famous rooms in Parliament to life, including medieval Westminster Hall and the iconic Commons and Lords debating Chambers.

Other highlights include St. Stephen’s Hall, where suffragettes chained themselves in protest in the early 20th century, and Central Lobby, the very heart of the building, where a mosaic of St. David watches over the public as they exercise their democratic right to ‘lobby’ MPs.

The self-guided tour takes around 60 to 75 minutes and features leading figures such as Mr. Speaker and Black Rod. Audio tours run on Saturdays throughout the year and on most weekdays during parliamentary recesses.

The Rt. Hon Alun Cairns MP, Secretary of State for Wales said:
“The new Welsh audio tours provide a fantastic opportunity for Welsh speakers to come to Parliament and enjoy being taught the history of this iconic location, in their mother tongue. I will certainly be urging my constituents to take full advantage of the Welsh audio tours next time they visit Westminster.”

Amy Pitts, Head of Visitor & Retail Services, UK Parliament said:
“Introducing the audio guide in Welsh is a fantastic opportunity for the UK Parliament to further engage with and reach out to the growing Welsh language community. We are also developing our range of services, such as our Welsh language enquiry service, demonstrating our commitment to outreach across the UK. The audio guide is also available in English and seven other languages.”

Mae teithiau sain Senedd y DU yn San Steffan nawr ar gael yn Gymraeg.

Mae'r sylwebaeth sain yn dod â rhai o'r ystafelloedd mwyaf enwog yn y Senedd yn fyw, gan gynnwys Neuadd Westminster ganoloesol a Siambrau dadlau eiconig Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi.

Ymysg yr uchafbwyntiau eraill mae Neuadd San Steffan, lle bu i'r Suffragettes glymu eu hunain â chadwyni mewn protest tua dechrau'r 20fed ganrif. Hefyd y Lobi Ganolog, sef calon yr adeilad lle mae mosaic o Dewi Sant yn gwylio dros y cyhoedd wrth iddynt ymarfer eu hawl ddemocrataidd i 'lobïo' eu ASau.

Mae'r daith hunan-dywys yn cymryd rhwng 60 a 75 munud, ac mae'n cynnwys cymeriadau blaenllaw megis Mr. Speaker (Llefarydd y Tŷ) a Black Rod. Cynhelir teithiau sain bob dydd Sadwrn gydol y flwyddyn, ac ar y rhan fwyaf o ddyddiau'r wythnos yn ystod toriad y Senedd.

Dywedodd y Gwir Anrh. Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
"Mae'r teithiau sain Cymraeg newydd yn darparu cyfle gwych i siaradwyr y Gymraeg ddod i'r Senedd a mwynhau dysgu am hanes y lleoliad eiconig hwn, a hynny yn eu mamiaith. Byddaf yn sicr o annog fy etholwyr i fanteisio ar y teithiau sain Cymraeg y tro nesaf y byddan nhw'n ymweld â San Steffan."

Dywedodd Amy Pitts, Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr ac Adwerthu, Senedd y DU:
"Mae cyflwyno'r arweiniad sain yn Gymraeg yn gyfle ardderchog i Senedd y DU ymgysylltu ymhellach ac estyn allan at y gymuned Gymraeg ei hiaith. Rydyn ni hefyd yn datblygu ein hamrywiaeth o wasanaethau, megis ein gwasanaeth ymholiadau Cymraeg, sy'n dangos ein hymrwymiad i estyn allan ar draws y DU. Mae'r arweiniad sain hefyd ar gael yn Saesneg ac mewn saith o ieithoedd arall."

Image / Delwedd: iStockphoto