COMMONS

Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ag amodau byw gwael a thrais mewn carchardai yng Nghymru

17 May 2019

Mewn adroddiad ar ddarpariaeth carchardai yng Nghymru, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn pwyso am ddiwygiadau pellgyrhaeddol i garchardai Cymreig, gan gynnwys gwelliannau o ran gofal iechyd, amodau byw a gwasanaethau prawf, yn ogystal â phroses ar gyfer mynd i'r afael â thrais sy'n ymwneud â gangiau.

Pwrpas yr ymchwiliad

Yn dilyn ymchwiliad dwys dros gyfnod o 16 mis i ddarpariaeth carchardai yng Nghymru, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol, sy'n gofyn am ddiwygiadau eang. Mae'r modd y rhennir cyfrifoldebau am garchardai yng Nghymru yn gymhleth, gan mai Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol yn gyffredinol, ond Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am nifer o'r gwasanaethau a ddarperir yn y carchar. Mae’r Pwyllgor yn casglu bod cydweithio gwael rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru wedi arwain at broblemau sylweddol yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys niferoedd uchel o garcharorion, trais ymysg gangiau, gofal iechyd annigonol a diffyg darpariaeth ar gyfer troseddwyr benywaidd o Gymru a throseddwyr sy’n siarad Cymraeg.

Sylwadau'r Cadeirydd

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor David T.C. Davies AS:

“Mae’r cyfrifoldebau gwahanol sydd gan Lywodraethau’r DU a Chymru yn creu sefyllfa anarferol lle bo un llywodraeth â chyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol yn gyffredinol, a’r llall yn darparu nifer o wasanaethau mewn carchardai ac ar gyfer anghenion troseddwyr fel gofal iechyd ac addysg.

Mae ymchwiliad fy Mhwyllgor wedi canfod bod diffyg cyfathrebu a chydweithio rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru yn golygu nad yw elfennau pwysig sydd ynghlwm â rheoli carchardai yn cael sylw digonol. Mae system mwy cyson sydd wedi ei chydlynu’n well yn allweddol er mwyn datrys y problemau sy’n wynebu carchardai yng Nghymru."

Prif gasgliadau ac argymhellion

Mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd i'r afael â sawl elfen yn ymwneud â darpariaeth carchardai, ac yn edrych ar effeithiolrwydd darpariaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru o ystyried cymhlethdod y sefyllfa. Mae'r adroddiad yn argymell nifer o gamau y gall Llywodraeth y DU eu gweithredu ar y cyd â Llywodraeth Cymru i wella carchardai Cymru, gan gynnwys creu fframwaith newydd ar gyfer cydweithio agosach ac integreiddio wrth ddarparu gwasanaethau yn y carchar.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’r camau canlynol:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth gofal iechyd i droseddwyr, gan gynnwys darparu triniaeth addas ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Mae'r adroddiad yn annog GIG Cymru i greu uned ganolog sy'n darparu gwasanaethau iechyd i garchardai;
  • Ariannu trefniadau prawf yng Nghymru yn ddigonol, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth ystyried gwasanaethau megis tai er mwyn sicrhau nad yw troseddwyr yn ddigartref yn sgil cael eu rhyddhau o'r carchar;
  • Gweithredu camau i wella amodau byw mewn carchardai gorlawn yng Nghymru a darparu cyfleoedd i droseddwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau;
  • Llunio strategaeth i sicrhau bod modd dal gafael ar staff profiadol ynghyd â darparu hyfforddiant digonol ar gyfer swyddogion newydd er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau treisgar a marwolaethau mewn carchardai;
  • Gosod sganwyr diogelwch er mwyn lleihau unrhyw weithgareddau anghyfreithlon, gan gynnwys dod â chyffuriau neu ffonau symudol i mewn i'r carchar;
  • Mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â gangiau ac ystyried cyflwyno unedau preswyl llai fel bod pobl ifanc yn agosach at adref; 
  • Sefydlu canolfannau preswyl i ferched yng Ngogledd a De Cymru er mwyn i droseddwyr o Gymru aros yng Nghymru;
  • Casglu data am siaradwyr Cymraeg a defnyddio'r wybodaeth hon i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n siarad Cymraeg mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr;
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ystyriaeth o anghenion penodol Cymru wrth lunio unrhyw fath o gynllun am garchar newydd;
  • Sicrhau bod unrhyw garchar newydd yn ymateb i anghenion carcharorion Cymreig, yn anad dim, yn hytrach na chynnig modd i ddatrys problem carchardai gorlawn yn Lloegr; a
  • Chynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd CEM Berwyn cyn ymrwymo i greu carchar enfawr newydd.

Swyddogaethau Llywodraethau'r DU a Chymru

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) yng Nghymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau wrth reoli troseddwyr, gan gynnwys gwasanaethau yn y carchar a phrawf, gwasanaethau ailsefydu, estyn cefnogaeth ar gyfer lleihau aildroseddu a rheoli cytundebau ar gyfer carchardai yn y sector breifat. Clywodd y Pwyllgor bryderon fod natur gymhleth a darniog darparu cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn arwain at fethiant wrth gyflwyno gwasanaethau effeithiol i droseddwyr. Nododd y Pwyllgor nifer o feysydd allweddol lle byddai mwy o gydlynu o bosib yn gwella carchardai a gwasanaethau yn y carchar, gan gynnwys gofal iechyd, rheoli o fewn carchardai a darpariaeth i bob math o droseddwyr.

Iechyd a lles yn y carchar a thu hwnt

Clywodd y Pwyllgor fod cydweithio'n bwysig iawn er mwyn gallu darparu gofal iechyd yn y carchar, gan mai GIG Cymru sy’n gyfrifol am hyn. Yn ystod ymweliadau â charchardai yng Nghymru, gwelodd y Pwyllgor nifer o broblemau yn ymwneud â darpariaeth iechyd, gan gynnwys diffyg gofal iechyd meddwl ac amseroedd aros hir ar gyfer gwahanol wasanaethau, gan gynnwys trin traed a deintyddiaeth. Gan fod diffyg cydweithio rhwng HMPPS a GIG Cymru wedi ei grybwyll yn aml fel eglurhad am hyn, mae'r Pwyllgor yn argymell creu uned ganolog ar gyfer GIG Cymru cyn Hydref 2019, a fyddai'n gyfrifol am ofal iechyd carcharorion a rheoli'r berthynas gyda HMPPS.

Mae'r gwahanol bolisïau sy’n amlinellu sut yr aiff Llywodraethau'r DU a Chymru i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn dangos safbwyntiau gwahanol y ddwy lywodraeth wrth ddarparu gwasanaethau iechyd. Mewn carchardai yn Lloegr, cynigir triniaeth amnewid opioid i garcharorion sy’n ddibynnol ar gyffuriau, megis Spice a chyffuriau seicoweithredol, tra rhoddir cefnogaeth seicogymdeithasol a chlinigol iddynt yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor fod y carcharorion hynny sy'n cael eu symud o garchardai yn Lloegr i rai yng Nghymru yn gallu bod yn dreisgar gan eu bod yn disgwyl derbyn triniaeth amnewid, ond yn hytrach yn gorfod dioddef symptomau yn sgil rhoi’r gorau i’r cyffur. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai HMPPS weithio gyda GIG Cymru i ddatblygu cynllun pontio ar gyfer y carcharorion hynny sy’n cael eu symud o garchardai yn Lloegr.

Gwelodd y Pwyllgor fod carchardai gorlawn yng Nghymru yn effeithio ar amodau byw. Er enghraifft, mewn rhai carchardai, roedd dau droseddwr mewn rhai celloedd oedd wedi eu cynllunio ar gyfer un carcharor. Mae'r Pwyllgor felly yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â'r camau sydd angen eu gweithredu er mwyn lleihau'r niferoedd uchel o garcharorion mewn carchardai Cymreig. Gwelodd y Pwyllgor hefyd fod digartrefedd yn broblem ar gyfer nifer o droseddwyr yn dilyn cael eu rhyddhau o'r carchar. O ganlyniad, mae’n galw am ragor o gydweithio rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru er mwyn sicrhau nad yw gwahaniaethau polisi yn effeithio ar allu carcharorion i ganfod llety wedi iddynt gael eu rhyddhau.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor David T.C. Davies AS:

“Ni ddylai troseddwyr Cymreig orfod dioddef disgwyl yn hir am wasanaethau gofal, amrywiadau yn eu triniaeth ar gyfer defnyddio sylweddau, ac amodau byw annigonol yn y carchar a thu hwnt i hynny.

Mae fy Mhwyllgor yn gofyn am well cydweithrediad er mwyn sicrhau bod troseddwyr Cymreig yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.”

Trais, diogelwch a gweithgareddau anghyfreithlon

Clywodd y Pwyllgor bryderon yn ystod yr ymchwiliad ynghylch perfformiad carchardai Cymru, yn enwedig ym maes diogelwch. Nodwyd bod cynnydd mewn trais, hunan-niweidio a marwolaethau hunanachosedig wedi eu hachosi yn rhannol gan broblemau yn ymwneud â recriwtio a dal gafael ar staff. Mae'r Pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i lunio strategaeth sy’n amlinellu sut i ddal gafael ar staff profiadol ynghyd â darparu hyfforddiant digonol ar gyfer swyddogion newydd er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau treisgar a marwolaethau mewn carchardai.

Crybwyllwyd sawl gwaith bod y cynnydd yn nifer y gweithgareddau anghyfreithlon mewn carchardai, gan gynnwys dod â chyffuriau a ffonau symudol i mewn i'r carchar, yn un o'r prif resymau dros y dirywiad mewn diogelwch yn y carchar. Mae'r Pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i osod sganwyr, fel y rhai a geir mewn meysydd awyr, ym mhob carchar yng Nghymru.

Yn ogystal, codwyd pryderon bod troseddwyr ifanc o Loegr yn arwain at broblemau yn gysylltiedig â gangiau mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru. O ganlyniad, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Llywodraeth ystyried manteision unedau preswyl llai ar gyfer troseddwyr ifanc yn eu hardaloedd lleol er mwyn osgoi problemau o’r fath.

Dywedodd David T.C. Davies:

“Mae’n hanfodol bod carchardai yng Nghymru yn gallu cadw aelodau staff profiadol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu delio â phroblemau diogelwch sydd ar gynnydd, er enghraifft smyglo cyffuriau a ffonau symudol.

Mae angen i Lywodraeth y DU greu strategaeth sy’n amlinellu sut i gadw staff profiadol, a sicrhau bod hyfforddiant digonol ar gael ar gyfer aelodau staff newydd.”

Darpariaeth carchardai

Mae'r adroddiad yn mynegi pryder ynglŷn â darpariaeth carchardai yng Nghymru ar gyfer gwahanol grwpiau o droseddwyr, gan gynnwys merched, pobl ifanc a siaradwyr Cymraeg. Nid oes carchardai yng Nghymru ar gyfer troseddwyr benywaidd.  Gwnaeth ymweliad â Chanolfan Merched Gogledd Cymru yn Rhyl argraff dda ar y Pwyllgor, gan roi cyfle i weld effeithiolrwydd y dulliau amgen a ddefnyddir mewn canolfannau preswyl. Mae'r Pwyllgor yn argymell sefydlu rhagor o unedau preswyl ar gyfer troseddwyr benywaidd trwy Gymru gyfan er mwyn lleihau'r pellter teithio ar gyfer merched.

Canfu'r Pwyllgor fod y ddarpariaeth iaith Gymraeg mewn carchardai yng Nghymru yn annigonol ac yn anghyson, ac felly hefyd carchardai yng Nghymru a Lloegr yn eu hystyriaeth o anghenion carcharorion sy'n siarad Cymraeg. Mae'r Pwyllgor felly yn argymell casglu data cywir am siaradwyr Cymraeg mewn carchardai, a dylid defnyddio'r wybodaeth hon wrth gynllunio gwasanaethau, gan gynnwys creu a gweithredu cynllun iaith Gymraeg newydd.

Dywedodd David T.C. Davies:

“Mae’n rhaid i garchardai yng Nghymru wasanaethu troseddwyr o Gymru yn bennaf. Mae fy Mhwyllgor yn galw am sefydlu unedau preswyl i droseddwyr benywaidd ledled Cymru, gan nad oes unrhyw gyfleusterau o gwbl ar gyfer merched yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn galw am greu cynllun iaith Gymraeg newydd sy’n sicrhau bod darpariaeth well ar gael i siaradwyr Cymraeg.”

Dyfodol carchardai yng Nghymru

Un o'r atebion posib i ddatrys y problemau y cyfeiriwyd atynt uchod yw datblygu carchar newydd yng Nghymru. Serch hynny, clywodd y Pwyllgor wahanol safbwyntiau ynghylch cynllun blaenorol y Llywodraeth i adeiladu carchar newydd ym Maglan, Port Talbot, gyda sawl un yn gwrthwynebu yn sgil diffyg ymgynghori â'r gymuned. Mynegwyd pryderon hefyd ynglŷn â sefydlu unrhyw fath o garchar newydd yn Nghymru, yn enwedig carchardai enfawr megis CEM Berwyn. Gwelwyd hyn oherwydd y posibilrwydd y byddai sefydliad o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i leddfu problem carchardai gorlawn yn Lloegr, gan geisio datrys problemau y dylid mynd i’r afael â hwy mewn cyfleuster cymunedol di-breswyl. Mae'r Pwyllgor yn annog y Llywodraeth i sicrhau y bydd unrhyw ddatblygiad wrth ystyried carchar newydd yng Nghymru yn ymateb, yn anad dim, i anghenion carcharorion Cymreig.

Dywedodd David T.C. Davies:

“Mae angen edrych ar y materion sydd wedi codi yn ystod ymchwiliad fy Mhwyllgor ar fyrder cyn i’r Llywodraeth fwrw ymlaen ag unrhyw ddatblygiad newydd wrth ystyried sefydlu carchar yng Nghymru. Yn gyntaf, mae angen eglurder a sicrhau bod unrhyw gamau i wella’r diffyg cydlynu rhwng cyfrifoldebau Llywodraethau’r DU a Chymru yn cael eu gweithredu’n effeithiol, ac yn ail mae angen ystyried anghenion troseddwyr Cymreig a’r ardal gyfagos cyn datblygu unrhyw gynllun ar gyfer carchar newydd yng Nghymru.

Gwybodaeth bellach

Delwedd: PA

Share this page