COMMONS

Galw am oedi cyn cyflwyno Bil newydd Cymru

28 February 2016

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i oedi ei hamserlen arfaethedig ar gyfer Bil Cymru, fel bod cyfle i fyfyrio'n llawn ar y broses cyn deddfu. Daw'r alwad wrth i'r pwyllgor gyhoeddi ei Adroddiad ar Fil drafft Cymru heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies:

"Yn ystod yr ymchwiliad, mae'r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth sy'n codi amheuon ynghylch gallu'r Bil drafft i ddarparu’r setliad parhaol y mae'n ceisio ei greu. Mae'r broses cyn deddfu wedi bod yn gyfle i wyntyllu’r pryderon hyn. Gan hynny, mae angen cyfnod o fyfyrio cyn dod i gytundeb a fydd yn para’n hir."

Disodli’r prawf 'rheidrwydd'

Codwyd tri phrif fater yn ystod yr ymchwiliad, ac mae'r rhain yn cael sylw penodol yn yr adroddiad:

  • Mae'r Pwyllgor yn pryderu bod angen cryfhau'r rhestr gyfredol o bwerau a gedwir yn ôl. Mae'n argymell bod Whitehall yn edrych unwaith eto ar y rhestr o bwerau i'w cadw’n ôl, gydag arweiniad clir yn cael ei ddarparu ar y cwestiynau y dylai adrannau ofyn iddyn nhw eu hunain cyn penderfynu a ddylid cadw pŵer yn ôl. Dylai'r ymarfer hwn wneud y rhestr derfynol o bwerau a gedwir yn ôl yn fwy cydlynol, a chynnig cyfiawnhad amddiffynadwy hefyd ar gyfer pob penderfyniad.
  • Mae'r adroddiad yn amlinellu pryderon y gall y trefniadau ynghylch caniatâd Gweinidogol fod yn rhy gymhleth. Mae un agwedd ar y gwaith hwnnw'n ymwneud oedi pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ganiatâd Gweinidogol o Whitehall ar gyfer Deddfau’r Cynulliad. Gan hynny, mae'r Pwyllgor wedi argymell bod y Bil terfynol yn cynnwys gweithdrefn lle bydd caniatâd Gweinidogol yn cael ei roi yn ddiofyn os nad oes penderfyniad wedi ei wneud o fewn 60 diwrnod.
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y prawf "rheidrwydd" yn y Bil yn cael ei ddisodli. Mae nifer o ddewisiadau eraill wedi eu hawgrymu, a gelwir ar Swyddfa Cymru i’w hasesu. Mae'r gofyn am y profion hyn yn deillio o awdurdodaeth gyfreithiol unedig Cymru a Lloegr. Cafwyd tystiolaeth yn galw am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol ar gyfer Cymru, yn sgil y corff cynyddol o gyfreithiau ar gyfer Cymru yn unig. Er bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw i’r dadleuon hyn, mae hwn yn faes lle na allen nhw gytuno’n unfrydol.

Cyfiawnhau’r rhestr pwerau cadw yn ȏl

Yn ogystal â'r argymhellion hyn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad:

  • Dylai'r trafodaethau sy'n parhau rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ar y Bil drafft fod wedi dod i ben cyn ei gyhoeddi.
  • Byddai dull mwy ymarferol gan Swyddfa Cymru wrth helpu adrannau Whitehall i lunio’r rhestr o bwerau i'w cadw yn ôl wedi bod yn well, gydag arweiniad cliriach yn cael ei ddarparu. Yn ogystal, dylid fod wedi gofyn i bob adran ymgynghori'n eang ac wedyn eu herio ynghylch yr hyn roedden nhw ac nad oedden nhw’n cynnig ddylai fynd ar y rhestr o bwerau i’w cadw yn ôl.
  • Mae'n bwysig y gellir cyfiawnhau'r rhestr o bwerau i’w cadw yn ôl yn ei chyfanrwydd, er mwyn bodloni Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y gofynnir iddo basio Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Bydd yn rhaid i bob pwnc hefyd allu gael ei gyfiawnhau’n unigol gan y byddan nhw’n cael eu harchwilio yn ystod hynt y Bil. Bydd y broses cyn deddfu hon wedi cic-danio'r broses honno, a ddylai helpu i oresgyn yr heriau hyn yn y dyfodol.
  • Bydd cynnwys y 'prawf anghenraid' yn y Bil yn achosi anawsterau, ac nid dyma’r prawf cywir. Nid yw ei ddefnydd yn sicr, ond mae perygl iddo greu trothwy rhy uchel i'r Cynulliad ei gyrraedd cyn y gall ddeddfu.
  • Mae'r Cynulliad Cenedlaethol angen eglurder ynghylch pa gyrff cyhoeddus y gall ddeddfu ar eu cyfer. Rydym yn argymell bod Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru’n cynnig rhestrau dangosol o gyrff maen nhw o'r farn y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar eu cyfer. Dylid anelu at lunio rhestr y cytunwyd arni ochr yn ochr â'r Bil, y gellir ei defnyddio fel canllaw, ac a all helpu i osgoi anghytundeb yn y dyfodol.
  • Roedd y cyhoeddiad, y byddai'r pŵer i osod y cyfraddau treth incwm sydd i'w talu gan drethdalwyr Cymru yn cael ei ddatganoli heb fod angen refferendwm, yn newid allweddol o ran polisi. Rydym yn gresynu at y ffaith na chafodd y Pwyllgor gyfle i graffu ar hyn yn iawn o ganlyniad i amseriad y cyhoeddiad hwnnw.

Gwybodaeth bellach

Delwedd: Parliamentary copyright

Share this page